Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor canlynol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:
(i) Y Pwyllgor Deisebau
Gofyn i’r Prif Weinidog:
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar Brexit yn sgil y ffaith bod Cytundeb Ymadael yr UE-DU wedi cael ei gwrthod neithiwr yn Nhŷ’r Cyffredin?
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol
(5 munud)
(30 munud)
(120 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 6 Mawrth 2019.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
Grŵp 1: Iaith sy’n niwtral o ran rhyw 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 16, 21
Grŵp 2: Penodi Ombwdsmon 44, 45
Grŵp 3: Ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd: Adennill costau 30, 6, 8, 9
Grŵp 4: Archwilydd Cyffredinol: Gosod y cyfrifon ardystiedig 49
Grŵp 5: Cywiriadau drafftio 2, 7, 10, 12, 13
Grŵp 6: Ymchwiliadau ar ei liwt ei hun 3, 4, 14, 15, 19
Grŵp 7: Gwneud cwynion 5, 17, 18
Grŵp 8: Egwyddorion Nolan 46
Grŵp 9: Gweithdrefnau ymdrin â chwynion 47, 11, 48
Grŵp 10: Pwerau gwneud rheoliadau 20
Grŵp 11: Adolygu’r Ddeddf: 39, 40, 41, 42
Grŵp 12: Swyddogaethau’r Cynulliad 43
Grŵp 13: Trosolwg
Dogfennau
Ategol
Bil
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr
o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio
Gwelliannau
(60 munud)
NDM6989 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol wrth ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon y sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.
Grant Thornton - Natural Resources Wales - Governance of Timber Sales - 3 February 2019 (Saesneg yn unig)
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Cyfrifon 2015-16
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:
a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-2018 – Tachwedd 2018;
b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru - Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren – Chwefror 2019.
Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i lywodraethu.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cyfoeth Naturiol Cymru
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 – Tachwedd 2018
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 3, dileu "Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel" a rhoi yn ei le "Yn gresynu at nifer y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru".
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried unrhyw fodelau amgen posibl.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol.
(30 munud)
NDM6988 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Pwysigrwydd prentisiaethau: Pam mae angen pobl arnom sydd â chymwysterau crefftau.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2019